Allez Cymru - Wales at Euro 2016

978-1-902719-52-8
    Delivery time:2-5 Days (UK)
Add to cart
  • Description

It is said that the human mind responds far better to an image than a word and the saying, ‘a picture paints a thousand words’, was never truer than during the fabulous French summer of 2016 when that now famous ‘Red Wall’, our quite fantastic supporters, rose to the challenge. This is a collection of  their photographs, their experiences and memories captured on the front line, a true record of the fervour, happiness and friendship that marked their personal experiences at Euro 2016.
Nic Parry, from his Foreword

Roedd rhaid bod yn Ffrainc i sylweddoli maint y parch a'r edmygedd fu tuag at angerdd, cyfeillgarwch a chwrteisi y cefnogwyr rheiny - fe syrthiodd Ewrob mewn cariad â chefnogwyr tîm Cymru. Ond, fel dengys y gyfrol hon, nid dyna oedd eu hunig gymwynas â ni. Aethant ati i gofnodi eu profiadau, a hynny mewn llun. Eu lluniau hwy sydd yma, eu cofnod real hwy o eiliadau personol, cofnod o iwfforia, o anghrediniaeth, o gyfeillgarwch ac angerdd - y cyfan yn y foment, heb ei gynllunio.

Nic Parry, o’i Ragair

 

Allez Cymru is a full-colour and bilingual illustrated celebration of that amazing and never-to-be-forgotten summer of football and fun in France when tens of thousands of Welsh fans followed their team to the finals of Euro 2016.

Packed with photos and memories of the tournament, Allez Cymru will appeal to all Welsh football fans from 5 to 105 and will include a stats section and photos of many of the amazing banners that adorned the stadiums and cities of France.


Having waited 58 years to appear at a major tournament the Welsh weren’t willing to wait a single second more as an estimated 30,000 Welsh fans poured into Bordeaux for the opening match….

Gary Pritchard is a life-long Wales fan who’s travelled to over 50 away games to support the national team. A football statistician of renown and  contributor to Radio Cymru’s weekly football show Ar y Marc, Gary lives on Anglesey and is a television producer for sports shows such as Sgorio and Y Clwb 


Llyfr llawn-lliw dwyieithog i ddathlu'r mis o bêl-droed anhygoel a'r hwyl aruthrol gafodd cefnogwyr Cymru yn Ffrainc, yn ystod Euro 2016 yw Allez Cymru a llyfr i'w drysori i gefnogwyr o 5 i 105 mlwydd oed.

O Bordeaux i Toulouse ac o Lille i Lyon mae Allez Cymru yn llawn-dop gyda lluniau’r cefnogwyr sy’n clyfleu’r balchder, emosiwn a chyfeillgarwch o fod yn aelod ffyddlon o'r ‘Wal Goch’. Mae hefyd yn cynnwys ‘adran ffeithiau’ a chasgliad lluniau cynhwysfawr o'r baneri dyfeisgar, lliwgar, a  ffraeth wnaeth  creu’r awyrgylch byth anghofiadwy o Euro 2016.


"Mae hi fel Eisteddfod yma!" Dyna oedd y gri gan nifer o Gymry wrth grwydro o amgylch Bordeaux. Doedd dim posib cerdded mwy na rhyw bedwar cam o un bar i’r llall cyn taro ar wyneb cyfarwydd arall o Gymru….


Mae Gary Pritchard wedi bod yn gefnogwr tîm pêl-droed Cymru ar hyd ei oes ac wedi bod i dros 50 o gêmau oddi cartref i gefnogi’r tîm cenedlaethol. Cyfranwr cyson i Ar y Marc ar Radio Cymru ac yn arbenigwr ffeithiau pêl-droed adnabyddus, mae Gary yn byw ar Ynys Môn ac yn gynhyrchydd teledu ar raglenni chwaraeon, megis Y Clwb a Sgorio.

Related Products