Dyddiadur Anne Frank

978-1-899869-01-5
    Delivery time:2-5 Days (UK)
Add to cart
  • Description

'Gwerth y llyfr yw ei naws amrwd a byrfyfyr a'r teimlad a rydd inni o ddarllen am bethau sy'n digwydd ar y pryd...mae'r testun yn darllen yn naturiol ac yn heini fel petai'r Gymraeg yn famiaith i Anne Frank' Mihangel Morgan, Taliesin

'Mae'n gyfieithad rhagorol...hynodrwydd y dyddiadur yw ei fod wedi ei ysgrifennu gan ferch bedair ar ddeg oed...dim ond ychwanegu at ei werth a wna'r fersiwn estynedig yma...mae'n ychwanegiad pwysig i'r deunydd sydd ar gael yn y frwydr barhaus yn erbyn Ffasgaeth' Angharad Tomos, Llais Llyfrau

'Gyda'r addasiad celfydd hwn...gallwn synhwyro o'r newydd wedd ar bersonoliaeth Anne a gadwyd o dan gaead hyd yma...y gwir amdani yw bod holl ddyddiadura Anne yn galeidoscop o ddaioni a drygioni y natur ddynol ac yn rhoi inni ddrych o gyfnod ac o gymeriadau y gallwn i gyd eu hadnabod'
Menna Elfyn, Barn

Mae'r fersiwn Gymraeg gan Wasg Addysgol Cymru hefyd yn fersiwn ddiweddaraf o'r dyddiadur a gyhoeddwyd ar draws y byd ym 1996. Mae'r fersiwn newydd, cyflawn hwn o'i dyddiadur yn cynnwys toreth o ddeunydd na chynhwyswyd mohono erioed o'r blaen. Trwy dudalennau'r gyfrol hon, down i adnabod yr Anne Frank go iawn, a rhannu'r gobeithion a'r ofnau, y profiadau a'r emosiynau, a gofnodwyd ganddi yn ystod y ddwy flynedd y bu hi a'i theulu'n cuddio rhag y Natsiaid yn Amsterdam. Dyma glasur o lyfr, yng ngwir ystyr y gair.